Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 – Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Mehefin 2022
Amser:
14.00 -
16.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12872
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Alistair Davey, Llywodraeth Cymru Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Bird, Bwrdd Milgwn Prydain Fawr Yr Athro Madeleine Campbell, Bwrdd Milgwn Prydain Fawr Yr Arglwydd David Lipsey, Greyhound Racing Malcolm Tams, Stadiwm Milgwn y Cymoedd David Cartwright |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Sian Thomas |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Datganodd Luke Fletcher ei fod yn aelod o fudiad Achub Milgwn Cymru a’i fod wedi hefyd wedi noddi sawl digwyddiad i Hope Rescue yn y Senedd.
2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data fel mater o drefn o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie Morgan, AS a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Allister Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Galluogi Pobl yn Llywodraeth Cymru.
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1271 Caffael y tir gan Network Rail lle mae ATR884 yn rhedeg fel llwybr caniataol a threfnu cynnal a chadw.
Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog i ofyn a allai roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor unwaith y bydd swyddogion wedi trafod y trefniadau cynnal a chadw a’r cynlluniau ar gyfer gwelliannau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
3.2 P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd ac yn y Bumed Senedd cyhoeddodd adroddiad gyda nifer o elusennau, yn y sector tai a digartrefedd ac yn y sector lles anifeiliaid, o'r enw 'paw-licy' anifeiliaid anwes.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ragor o eglurhad ar y pwyntiau a godwyd gan y deisebydd, gan gynnwys:
3.3 P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddechrau tymor yr hydref.
3.4 P-06-1278 Cyflwyno gwersi ar fagu plant a sgiliau bywyd sylfaenol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni ymateb y Gweinidog sydd bellach yn nodi bod y cyfrifoldeb bellach ar ysgolion i nodi'r gwersi sgiliau bywyd y maent am eu dysgu i'w disgyblion, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o'r mater.
3.5 P-06-1279 Rhowch y gorau i fod yn anghyson o ran canllawiau COVID. Gadewch i ysgolion gael yr un hyblygrwydd â sinemâu neu stadia
Gan nad oes unrhyw reoliadau Covid-19 ar waith yn awr, a chan fod ysgolion yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch yr hyn sy’n briodol i’w cymuned, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.6 P-06-1280 Canslwch arholiadau Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru ar gyfer haf 2022
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac roedd yn cydnabod yr heriau sylweddol y mae dysgwyr, athrawon a rhieni wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig a’r effaith barhaus arnynt. O ystyried bod dysgwyr wedi dechrau sefyll eu harholiadau Safon Uwch ac UG ar 16 Mai 2022, ac yng ngoleuni’r camau lliniarol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i leddfu rhywfaint o’r pwysau ar ein pobl ifanc, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd.
4 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd (David) Lipsey, Cadeirydd Premier Greyhound Racing; Malcolm Tams, Stadiwm Milgwn y Cymoedd; Mark Bird, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Milgwn Prydain Fawr; Yr Athro Madeleine Campbell, Aelod annibynnol o Fwrdd Milgwn Prydain Fawr a David Cartwright.
Perchennog cŵn sy'n rasio yn Stadiwm Milgwn y Cymoedd.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros nes bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn gorffen y gwaith y mae’n ei wneud ar hyn o bryd ar y mater, a thrafod y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.
5.2 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2021 bellach wedi cwblhau Cyfnod 2, a threfnwyd trafodion Cyfnod 3 ar gyfer dydd Mawrth 21 Mehefin 2022. Cytunodd yr Aelodau i drafod y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol unwaith y bydd trafodion Cyfnod 3 wedi dod i ben.
5.3 P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i barhau i gadw llygad ar y mater nes ceir casgliad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd fel rhan o raglen waith UK Reach, sydd i ddod i ben ym mis Tachwedd 2022.
5.4 P-06-1212 Deddf Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru
Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith diweddar y mae’r Pwyllgor wedi’i wneud ar y ddeiseb. Bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi yn awr, a bydd gwybodaeth ysgrifenedig a gesglir ar hyn o bryd gan lawer o deuluoedd, hefyd yn cyfrannu ato. Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref.
Mynegodd yr Aelodau hefyd gofnod o’u diolch i'r holl deuluoedd sydd wedi bod yn ymwneud â'r gwaith ar y ddeiseb.
5.5 P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn am atebion i rai o'r cwestiynau a godwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Cymwysterau Cymru.
5.6 P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog am y tro olaf i ofyn am atebion i rai o'r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd yn ei ohebiaeth ddiweddar.
5.7 P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd nad oes llawer rhagor y gallant ei wneud ar y mater fel Pwyllgor, fodd bynnag mae’n bosibl i’r Aelodau hyrwyddo profiad byw gofalwyr mewn gwaith yn y dyfodol ac ar lawr y Siambr. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
5.8 P-06-1248 Dylid newid y Rheolau Sefydlog a’r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni'r ymateb a gafwyd gan y Llywydd, cytunodd i gau'r ddeiseb ac i ddiolch i'r deisebydd.
Wrth wneud hynny, anogodd y Pwyllgor y cyhoedd i ymgysylltu â'u cynghorwyr lleol a oedd newydd eu hethol ynghylch materion lleol.
6 P-06-1181 Mae treillio ar wely'r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu'n moroedd!
Nodwyd y papur.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
Derbyniwyd y cynnig.
8 Trafod y dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data fel mater o drefn o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd, a chroesawodd ymrwymiad y Gweinidog i brofiadau bywyd pobl mewn gofal. Roeddent yn cytuno bod yn rhaid i’r hyn sy’n deillio yn sgil yr ymchwiliad gael eu cynhyrchu mewn ffyrdd sy'n hygyrch i bobl ifanc.
9 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunwyd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch y datblygiadau arfaethedig i Stadiwm y Cymoedd.